Croeso

y-tabernacl

Croeso i wefan Eglwys Bedyddwyr y Tabernacl, Llwynhendy. Mae eglwys y Tabernacl yn awyddus i addoli a gwasanaethu’r Duw byw trwy ein hoedfaon a’n tystiolaeth fel ei bobl. Ryn ni’n cyhoeddi Gair Duw yn gyson er mwyn dysgu a hyfforddi’r crediniwr a chyflwyno newyddion da efengyl Iesu Grist i’r di-gred. Mae’r eglwys yn addoli’n bennaf yn y Gymraeg gyda chyfieithiad ar-y-pryd trwy glustffonau. Cawn ddwy oedfa Saesneg ar Sul ola’r mis. Mae amrywiaeth o gyfarfodydd a gweithgareddau yn digwydd yn ystod yr wythnos a chewch wybodaeth amdanynt ar dudalennau’r wefan.

Comments are closed.